Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Holiadur Cleifion

Rydym yn ceisio eich barn ar y cais gan Bractis Grŵp Llanfyllin i gau Canolfan Feddygol Llanrhaeadr sy'n un o dri safle maen nhw'n eu rhedeg yn yr ardal.

Hoffem gael eich barn cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol y gangen.  Os ydych chi'n llenwi'r holiadur ar ran rhywun arall nad yw'n gallu gwneud hynny ei hun, atebwch yr holl gwestiynau fel y bydden nhw'n gwneud, gan gynnwys y manylion yn yr adran 'Amdanoch Chi'

Cwblhewch ein harolwg erbyn hanner nos ar 30 Medi 2026

Mae eich profiad a'ch mewnwelediadau yn bwysig.   Caiff pob barn a dderbynnir ei dadansoddi a'i gwerthuso. Yna, paratoir Adroddiad Adborth manwl sy'n cynnwys argymhelliad; caiff hwn ei ystyried mewn cyfarfod cyhoeddus yn y dyfodol gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a gwneir penderfyniad terfynol.  

Noder: 

Wrth ddadansoddi ymatebion i arolygon, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn defnyddio'r dull canlynol.  1) Caiff pob ymateb i'r arolwg ei ddarllen gan aelod o'r gwasanaeth neu'r tîm Ymgysylltu er mwyn sicrhau bod ganddynt drosolwg cyflawn o'r agwedd a natur yr adborth a gafwyd 2) Gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial wedyn i helpu nodi prif themâu o'r sylwadau/adborth a ddarparwyd.  

Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon