
Cynnig i Newid Categori Iaith Ysgol Gynradd Pontsenni
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i newid categori iaith Ysgol Gynradd Pontsenni. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
• Gwneud newid rheoledig i newid y cyfrwng addysgu yn Ysgol Gynradd Pontsenni i gyfrwng Cymraeg.
• Byddai hyn yn cael ei gyflwyno fesul gradd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau gyda'r Dderbynfa ym mis Medi 2027.
Mae dogfen ymgynghori sy'n darparu rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael ar wefan y Cyngor ar https://cy.powys.gov.uk/article/21271/Categori-Iaith-Pontsenni. Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad hon yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni eich barn ar gynnig y Cyngor. Gellir llenwi'r ffurflen ymateb ar-lein hefyd – mae dolen i'r ffurflen ar-lein ar gael drwy ddilyn y ddolen uchod.
https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/admin/projects/ysgol-gynradd-pontsenni
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 27 Mai 2026. Rhaid derbyn pob ymateb erbyn y dyddiad hwn.
I gael gwybodaeth am sut mae gwybodaeth bersonol a gesglir yn ystod prosesau ymgynghori yn cael ei diogelu a'i defnyddio, gweler yr hysbysiad preifatrwydd Trawsnewid Ysgolion, sydd ar gael drwy'r ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion
0% Ateb
