Neidio i'r cynnwys
Llun Capel Ysbyty Bronllys

Adnewyddu a Defnydd y Dyfodol Capel yn Ysbyty Bronllys

Byddwch yn rhan o lunio dyfodol Capel Ysbyty Bronllys  

Adeiladwyd y capel rhestredig Gradd II yn Ysbyty Bronllys ym 1920 fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer Sanatoriwm Twbercwlosis newydd De Cymru.

Wedi'i dylunio yn arddull Celf a Chrefft gan y penseiri Edwin T. Hall a Stanley Hall, mae'r Capel wedi darparu lle ar gyfer addoli, myfyrio a chymorth o fewn tiroedd yr ysbyty ers amser maith.

Mae'r Capel a thir parc yr ysbyty o'i amgylch yn rhan o safle hanesyddol pwysig ac yn parhau i fod ym mherchnogaeth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Pam rydym yn gofyn am eich barn?

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn archwilio cyfleoedd i sicrhau cyllid allanol i adnewyddu'r Capel yn Ysbyty Bronllys.

Hoffem ddeall sut y byddai cleifion, staff, teuluoedd, trigolion lleol, grwpiau ffydd a sefydliadau cymunedol yn hoffi gweld y Capel yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Bwriad y Capel yw gweithredu fel gofod amlbwrpas, sy’n cael ei rannu mewn ffordd barchus, sy'n croesawu ac yn cynnwys pob ffydd; gan gefnogi myfyrdod, gweithgareddau crefyddol ac ysbrydol, gwasanaethau bugeiliol, lles a gweithgareddau sy'n cysylltu â'r gymuned ehangach, yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.

Bydd eich adborth yn helpu dangos yr angen am y prosiect, llywio defnydd y Capel yn y dyfodol, a chefnogi ceisiadau am gyllid. 

Diolch. 

Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon