Diweddariadau ar Newid Gwasanaeth Dros Dro - Rhagfyr 2024
-------------------------
Camau nesaf ar Ymgysylltu â Newid Gwasanaeth Dros Dro
Mae ein hymgysylltiad ar gynigion ar gyfer rhai newidiadau dros dro i wasanaethau ar Unedau Mân Anafiadau a gwelyau cleifion mewnol yn ysbytai cymunedol Powys bellach wedi cau.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi eu barn. Mae'r datganiad llawn i'r wasg ar gael yma i'w ddarllen. Isod mae dau boster adborth cryno sy'n tynnu sylw at yr hyn a glywsom a beth sy'n digwydd nawr.


-----------------------------------------------------------------------------------------------
Beth sy'n digwydd?
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig newidiadau dros dro i'r gwasanaethau canlynol:
- Unedau mân anafiadau yn Aberhonddu a Llandrindod
- Gwasanaethau cleifion mewnol Ysbytai Cymunedol ar draws Powys
Erbyn pryd hoffem glywed eich sylwadau?
Rydym yn ceisio eich barn rhwng 29 Gorffennaf ac 8 Medi 2024.
Beth mae angen i mi ei wybod cyn gwneud sylwad?
Darllenwch ein:
Mae'r dudalen ‘Ateb Eich Cwestiynau’ yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i ymateb i gwestiynau rydych chi'n eu codi gyda ni.
Beth ddylwn i ei wneud wedyn?
Yn benodol, rydym yn awyddus i ddarganfod pa effaith y gallai'r cynigion hyn eu cael arnoch chi a'ch teulu, ar bobl eraill a pha gamau y gallwn eu cymryd i leihau unrhyw effaith.
Sgroliwch i lawr a chliciwch ar y tab arolwg llwyd isod a gadewch eich barn am y newidiadau dros dro hyn.
Beth arall sydd angen i mi ei wybod?
Mae hyn yn rhan o sgwrs barhaus gyda phobl Powys i sicrhau bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ymgysylltu eto yn yr Hydref.
Rydym yn cynnal dau weminar ar-lein. Bydd y ddau yn esbonio pam mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwneud newidiadau dros dro i'r gwasanaethau canlynol:
Os ydych chi wedi methu gweminar, gallwch wylio recordiad. Gweler y ddolen fideo ar y dde.
Gallwch hefyd ofyn am gopi o'r ddogfen hon drwy ffonio ein ffôn ateb ar 01874 442078. Gadewch neges gyda'ch enw a'ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol.
Gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Newyddion Ymgysylltu am ddim yma sy'n anfon gwybodaeth yn uniongyrchol at eich mewnflwch am gyfleoedd i ddweud eich dweud ar wasanaethau'r bwrdd iechyd.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yma os hoffech ei ddarllen.Hysbysiad Preifatrwydd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Yn olaf, diolch am gymryd yr amser i ddarllen ac ymateb. Mae eich barn yn bwysig i ni.