
Y Camau Nesaf ar Ymgysylltu Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau
Mae ein hymgysylltiad ar gynigion ar gyfer rhai newidiadau dros dro i wasanaethau ar Unedau Mân Anafiadau a gwelyau cleifion mewnol yn ysbytai cymunedol Powys bellach wedi cau.
Mae'r gwaith dadansoddi bellach ar y gweill, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi eu barn.
Byddwn yn llunio adroddiad cynhwysfawr a fydd yn cynnwys manylion yr adborth a dderbyniwyd ac argymhellion. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei drafod yn gyhoeddus mewn cyfarfod o'r Bwrdd ddydd Iau 10 Hydref. Bydd yr agenda a'r papurau ar gael ymlaen llaw.
Dweud eich Dweud ar gynigion am newidiadau dros dro i wasanaethau iechyd ym Mhowys
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig gweithredu rhai newidiadau dros dro i ddau wasanaeth. Y rhain yw:
- Unedau Mân Anafiadau (Aberhonddu a Llandrindod)
- Ein model ysbyty cymunedol
Fel bwrdd iechyd, ein cenhadaeth graidd yw darparu a chomisiynu gwasanaethau diogel sy'n cynnig y canlyniadau gorau i gleifion. Mae'r rhain yn newidiadau y byddem yn eu rhoi ar waith dros dro. Maen nhw’n allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o ofal i bob claf; diogelu'r gwasanaethau; gwella gwydnwch lle mae'n fregus ar hyn o bryd; lleihau aneffeithlonrwydd ac ymateb i bwysau staffio a chyllidebol.
Darllenwch ein: