
CYNNIG I GAU YSGOL E. YNG NGH. LLANFAIR LLYTHYNWG
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol E. yng Ngh. Llanfair Llythynwg. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
Cau Ysgol E. yng. Ngh. Llanfair Llythynwg ar 31 Awst 2027, gyda disgyblion i drosglwyddo i'w hysgolion amgen agosaf ym Mhowys (eu hysgol dalgylch newydd)
Mae dogfen ymgynghori sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael ar wefan y Cyngor yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfair Llythynwg - Cyngor Sir Powys. Mae'r ffurflen ymateb ymgynghoriad hon yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni eich barn ar gynnig y Cyngor. Gellir llenwi'r ffurflen ymateb ar-lein hefyd – mae dolen i'r ffurflen ar-lein ar gael drwy ddilyn y ddolen uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 26 Hydref 2026. Rhaid derbyn pob ymateb erbyn y dyddiad hwn.
I gael gwybodaeth am sut mae'r Tîm Trawsnewid Addysg yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gesglir yn ystod prosesau ymgynghori, gweler yr hysbysiad preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael drwy'r ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion
